Cyngor Sir Ynys Môn

Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd


Yn 2010 gwnaed y penderfyniad i uno Uned Polisi Cynllunio Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn. Sefydlwyd yr Uned yn ffurfiol ym mis Mai 2011.

Dylai pob ymholiad polisi cynllunio mewn perthynas ag ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd neu Ynys Môn cael ei gyfeirio tuag at yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd.

Beth ydym yn ei wneud?

Mae’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn gyfrifol am gynhyrchu polisïau cynllunio ac arweiniad defnydd tir a ddefnyddir er mwyn gwneud penderfyniad ar geisiadau cynllunio ac felly tywys datblygiadau’r dyfodol yn yr ardal.

Y cynlluniau datblygu mabwysiedig presennol ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Môn ydi Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2011 i 2026).

Cysylltu â ni

Ffon: (01766) 771000

Ebost: polisicynllunio@gwynedd.llyw.cymru

Cyfeiriad:  Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd (Gwynedd a Môn), Swyddfa’r Cyngor, Stryd y Castell, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SE